Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Telir hysbysiad cosb cofrestru awtomatig

Os ydych wedi derbyn hysbysiad cosb neu anfoneb gennym ni, mae amrywiaeth o ffyrdd o dalu.


Dewisiadau talu hysbysiadau cosb

Bydd angen eich cyfeirnod hysbysiad cosb arnoch ar gyfer y ddau opsiwn talu (gallwch ddod o hyd i hyn ar flaen eich hysbysiad). Rhaid i chi dalu erbyn y dyddiad a ddangosir ar flaen eich hysbysiad cosb.

1.Taliad ar-lein

Gallwch dalu eich cosb gan ddefnyddio ein gwasanaeth talu ar-lein diogel ar yr amod nad yw eich dyled wedi bod yn destun achos llys.

Os bydd eich cyfeirnod hysbysiad yn dechrau gydag AE neu C, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau talu ar yr hysbysiad gan na fyddwch yn gallu ei dalu ar-lein.

Talu eich hysbysiad cosb

2. Trosglwyddiad banc

I dalu eich hysbysiad cosb drwy drosglwyddiad BACS, anfonwch y taliad i:

  • cod didoli: 40-14-03
  • rhif y cyfrif: 72526026

Dylech ddyfynnu rhif eich Hysbysiad Cosb fel cyfeirnod eich taliad. 

Bydd peidio â chynnwys rhif eich Hysbysiad Cosb yn golygu na fyddwn yn gallu clustnodi eich taliad o bosib, neu fod y taliad yn cael ei ddychwelyd gan ei fod yn anhysbys.

Pwysig

  • Os ydych wedi derbyn hysbysiad cosb, mae angen i chi gwblhau datganiad cydymffurfio o hyd.
  • Os ydych wedi cwblhau datganiad o gydymffurfiad ar adeg cael cosb, mae angen i chi sicrhau eich bod wedi talu'r ddirwy neu wedi trefnu cynllun talu gyda ni.
  • Os na fyddwch yn talu'r gosb, byddwn yn adennill unrhyw ddirwyon sydd heb eu talu drwy achosion cyfreithiol. Gall hyn gynnwys cael dyfarniad llys sirol a chyfarwyddo beilïaid.

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich cosb

Os ydych chi mewn trafferthion ariannol, mae'n bosib y bydd modd i ni drafod a chytuno ar gynllun talu i chi dalu eich cosb yn raddol. Cysylltwch â ni yn DebtRecovery@tpr.gov.uk neu 0800 169 0325 i drafod eich opsiynau â'n Tîm Adennill Dyledion.


Os ydych chi'n cael trafferth gyda dyledion, cysylltwch ag un o'r gwasanaethau cyngor di-dâl sydd ar gael ledled y DU.

Mae rôl ac awdurdodaeth y tribiwnlys a’r Llys Sirol yn wahanol iawn, ac mae’n bwysig fod unrhyw her a godir yn erbyn hysbysiad cosb yn cael ei gwneud yn y llys neu dribiwnlys cywir. Canfod mwy o wybodaeth am rôl ac awdurdodaeth y tribiwnlys a’r Llys Sirol yng Nghymru a Lloegr.

Y cynnydd presennol mewn costau byw

Gall y cynnydd presennol mewn costau byw effeithio ar eich staff ac efallai fod y rhai sy'n pryderu'n mynd atoch chi am help gan y gallent deimlo nad ydynt yn gallu fforddio talu i'w cynllun pensiwn mwyach. Gall eraill fod yn ceisio cael arian parod o'u pot pensiwn i dalu biliau hanfodol. Mae hyn yn ddealladwy ond mae'r ddwy senario yn cyflwyno risg.

Mae'n bwysig bod pobl yn cynnal eu cyfraniadau pensiwn, pryd bynnag y gallant, gan y gallai atal cyfraniadau gael effaith ddifrifol ar eu safonau byw ar ôl ymddeol yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Sut allwch chi helpu?  

Gallwch helpu drwy annog eich staff i ofyn am help cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Dylech gyfeirio unrhyw un o'ch staff sy'n poeni am arian at y gwasanaeth diduedd HelpwrArian a gefnogir gan y llywodraeth a all eu helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Dylai unrhyw staff sy'n ceisio trosglwyddo arian o'u pensiwn hefyd gael eu cyfeirio at wefan ScamSmart. Bydd hyn yn eu helpu i ddod i adnabod arwyddion rhybudd sgam a gwirio'r cwmni y maent yn delio ag ef.